Mae
ynys hardd Môn yn cofleidio arfordir Gogledd Cymru
ac yn ymfalchio mewn dros 100 milltir o arfordir ysblennydd
o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Amrywiaeth
yw ei hatyniad arbennig, ac mae popeth yn hawdd i'w cyrraedd
o ble bynnag y dewiswch aros. Mae wedi'i thrwytho yng nghyfoeth
ei threftadaeth archeolegol a hanesyddol. Nid ocs ei thebyg
o ran ei hamrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt o glogwyni
môr anferth, aberoedd, lagynau a thwyni ei harfordir i lynnoedd,
tiroedd gwlybion, rhosydd a chyfoeth brithwaith tir ffermio
ei pherfedd. Ei thraethau yw un o'i hoff atyniadau o draethau
digyffwrdd a helaeth Bae Llanddwyn i lan y môr brysur Benllech,
neu Fae Cemaes sy'n ddistaw ac yn bictiwrésg.
Yn
ystod eich ymweliad darganfyddwch amrywioldeb coginio Ynys
Môn gyda chymorth ein llawlyfr llwybr bwyd Blas o Fôn prydau
bwyd i dynnu'r dwr o'ch dannedd a phob un yn defnyddio cynnyrch
lleol. Adnabyddir Ynys Môn fel Môn Mam Cymru, cyfeiriad
at rôl hanesyddol yr ynys fel basged fara Cymru.
Ceir
dewis o lety sydd yr un mor amrywiol. Dewiswch o Wely a
Brecwast ty fferm, ble cewch flasu hyfrydwch bwyd cartref
traddodiadol, neu Wely a Brecwast mewn gwesty, ble byddwch
yn sicr o gael y croeso gorau a gwybodaeth ar ddigwyddiadau
lleol. Mae yma westai o bob math gan gynnwys plastai a'u
holl foethusion ychwanegol. Pe bai'n well gennych wyliau
hunanarlwyol, yna mae digonedd o fythynnod parciau carafan
statig a gwersyllfaoedd. Ble bynnag y byddwch yn aros, byddwch
yn sicr o groeso cynnes. Edrychwn ymlaen at eich ymweliad.